Meddyginiaeth seiciatrig a ddefnyddir i liniaru anhwylderau tymer yw cyffur gwrthiselder neu wrthiselydd. Fe'u defnyddir i drin nifer o gyflyrau gan gynnwys iselder cymedrol i ddifrifol, pryder difrifol a phyliau o banig, anhwylder gorfodaeth obsesiynol, poen cronig, anhwylderau bwyta, ac anhwylder straen ar ôl trawma.[1]
Fel arfer, cychwynnir triniaeth â TCA neu SSRI. Mae'n cymryd rhyw 10 i 14 diwrnod i'r cyffuriau cael effaith, a rhwng chwech ac wyth wythnos iddynt weithio'n llawn.[1]